Digwyddiadau
Digwyddiadau
Mae Cymunedau am Waith a Mwy Castell-nedd Port Talbot yn cynnal nifer o ddigwyddiadau cymunedol trwy gydol y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael drwy ein prosiectau. Mae hefyd yn rhoi cyfle i chi siarad yn bersonol â ni a gofyn cwestiynau, cael mwy o wybodaeth am sut gallwn ni eich helpu, a chofrestru i dderbyn cymorth.
Mae'r cyfleoedd hyn hefyd yn rhoi cyfle i chi siarad â rhai o'n partneriaid fel Canolfan Byd Gwaith, Dysgu Oedolion yn y Gymuned a CVS Castell-nedd Port Talbot, ynghyd â chyflogwyr lleol sydd eisiau recriwtio.
Mae ein digwyddiadau'n cynnwys: ffeiriau swyddi, diwrnodau hwyl, stondinau gwybodaeth dros dro, diwrnodau cyfranogiad cyflogwyr/ffeiriau gyrfaoedd ysgolion, clinigau gwybodaeth a chlybiau gwaith, ac rydym hefyd yn cynnal ein hybiau cymunedol aml-asiantaeth o'r enw ‘Yr Hyb Cyfleoedd’ ar draws Castell-nedd Port Talbot bob wythnos.
Bwriwch olwg ar dudalen Digwyddiadau Castell-nedd Port Talbot neu dilynwch ni ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol i'ch cadw i'r funud.
Digwyddiadau i ddod
- Iau, 22 MediPort Talbot22 Medi 2022, 13:00 – 15:00Port Talbot, Golwg-Y-Mynydd, School Rd, Port Talbot, Cymmer, Port Talbot SA13 3EL, UK